Denbighshire School Meals

Taliad di-arian

Ysgolion Uwchradd

C.  Beth ydi Arlwyo Heb Arian Parod?

A. Sir Ddinbych oedd y Cyngor cyntaf yng Ngogledd Cymru i gychwyn y System yn ei holl Ysgolion Uwchradd mewn ymdrech i ddileu unrhyw stigma sy’n gysylltiedig â Phrydau Ysgol Am Ddim gan fod y system yn cynnig cyfrinachedd llwyr i’r Disgybl sy’n prynu Pryd Ysgol Am Ddim.

Mae Ysgolion Uwchradd yn gweithredu system sy’n caniatáu i rieni/warcheidwaid dalu am eu prydau ysgol. Caiff y siec ei chofnodi ar gyfrifiadur gan Gogydd yr Ysgol a chaiff cyfrif y disgybl ei gredydu â’r swm.

Nid ydym yn defnyddio cofnodyddion arian yn yr Ystafell Fwyta – yn lle hynny mae’r disgybl yn dewis ei fwyd o’r llecyn arlwyo ac yn mynd ag o i un o’n ‘Padiau Til’, ble mae aelod o’r staff yn bwydo beth y mae’r disgybl wedi’i ddewis i mewn, a chaiff y swm ei ddebydu’n awtomatig o’u cyfrif. Mae’r disgybl yn gallu gweld balans ei gyfrif wrth y ‘Pad Til’ hefyd.

Mae disgyblion yn gallu rhoi arian i mewn i’w cyfrif hefyd trwy ddefnyddio un o’r Unedau Ailwerthuso electronig, sydd wedi’u lleoli trwy’r ysgol i gyd. Mae’r disgybl yn rhoi ei fys ar y darllenydd sydd wedi’i osod yn y peiriant, yn rhoi ei arian i mewn a chaiff y cyfrif ei gredydu’n awtomatig.

Yn Ysgol Uwchradd Prestatyn mae gennym system sy’n galluogi Rhieni i dalu ar-lein am brydau Ysgol ond mae’r Disgyblion yn gallu credydu eu cyfrif hefyd yn yr Unedau Ailwerthuso sydd wedi’u lleoli yn yr Ysgol.

Manteision Arlwyo Heb Arian Parod: mae’n lleihau amseroedd ciwio, yn dileu bwlio, gall Rhieni ofyn am wybodaeth os oes ganddynt bryderon ynghylch arferion bwyta a gallant fod yn siŵr os ydynt yn talu â siec neu ar-lein fod yr arian yn cael ei wario yn yr Ysgol ac nid yn y siop!

MENU