Denbighshire School Meals

Rydym yn y chwech uchaf

Yng ngwobrau APSE yr wythnos diwethaf – enillodd Gwasanaeth Arlwyo Mewnol Cyngor Sir Ddinbych wobr Gwasanaeth Prydau Ysgol Gorau eu Perfformiad yn y Deyrnas Unedig, o blith yr holl wasanaethau sy’n cyflwyno data – mae hyn yn seiliedig ar gymharu â Gwasanaethau Prydau Ysgol eraill ledled y Deyrnas Unedig ac ar roi ystyriaeth i bethau megis mentrau prynu bwyd, y niferoedd sy’n dewis cinio ysgol, costau rheoli, lefelau hyfforddi staff/absenoldeb, cyfathrebu â chwsmeriaid ac ati.

Nodwyd hefyd ein bod ymhlith y chwe Gwasanaeth Prydau Ysgol sydd wedi gwella fwyaf yn y Deyrnas Unedig.

Mae Gwasanaeth Prydau Ysgol Mewnol Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn un o’r Gwasanaethau Prydau Ysgol gorau eu perfformiad yn y Deyrnas Unedig bedair gwaith yn y pum mlynedd ddiwethaf.

MENU