Denbighshire School Meals

Prydau Ysgol Am Ddim

Pwy sy’n cael hawlio prydau ysgol am ddim?

Os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol a bod incwm eich cartref heb fod yn fwy na throthwy cyfredol y Llywodraeth, fe allech fod â hawl i brydau ysgol am ddim i’ch plentyn, gan arbed dros £300 y flwyddyn ichi.

Rhieni neu ofalwyr sy’n derbyn:

Sut i wneud cais

I gael mwy o wybodaeth neu i gofrestru, cysylltwch â’r Swyddfa Budd-daliadau ar:

Ffôn: 01824 706316 / 706312 / 706302

Dylid anfon ymholiadau e-bost at budd-daliadau@sirddinbych.gov.uk

Gyda manylion eich enw, dyddiad geni a rhif Yswiriant Cenedlaethol, gallant hwy ddweud a oes gennych hawl i Brydau am Ddim ac fe wnânt anfon manylion gwneud cais atoch.

Unwaith yr ydych wedi gwneud cais ac y caniatawyd prydau ysgol am ddim ar gyfer eich plant nid oes angen ichi ail-wneud cais bob blwyddyn, gall / bydd hyn yn cael ei newid gydag unrhyw newidiadau yn eich incwm.

Mae ffurflenni prydau Ysgol am Ddim ar gael o ysgol eich plentyn hefyd.

MENU